Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 13:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Dyna'r dynged a oddiweddodd Menelaus, torrwr y gyfraith; bu farw ond ni chafodd fedd,

8. a hynny'n hollol gyfiawn; oherwydd am iddo bechu llawer ynghylch yr allor y mae ei thân a hyd yn oed ei lludw yn ddihalog, mewn lludw y daeth i'w dranc ei hun.

9. Aeth y brenin yn ei flaen yn llawn traha barbaraidd, gan fwriadu dangos i'r Iddewon bethau gwaeth na dim a ddigwyddodd yn amser ei dad.

10. Pan hysbyswyd Jwdas o hyn, gorchmynnodd i'r bobl alw ar yr Arglwydd ddydd a nos ar iddo estyn ei gymorth, yn awr yn anad untro arall, i rai oedd ar gael eu hamddifadu o'u cyfraith, o'u gwlad ac o'u teml sanctaidd;

11. ac ar iddo beidio â gadael i'w bobl, ar ôl yr ysbaid a gawsai yn ddiweddar i gael ei hanadl ati, syrthio dan fawd y Cenhedloedd cableddus.

12. Yn unfryd ac ynghyd aethant ati i ymbil ar yr Arglwydd trugarog, gan wylofain ac ymprydio a gorwedd ar eu hyd am dridiau'n ddi-ball; ac yna calonogodd Jwdas hwy a'u cymell i sefyll gydag ef.

13. Ar ôl cydymgynghori ar ei ben ei hun â'r henuriaid, penderfynodd beidio ag aros nes i fyddin y brenin ddod i mewn i Jwdea a meddiannu'r ddinas, ond mynd allan yn hytrach a dwyn yr ymrafael i ben trwy gymorth Duw.

14. A chan ymddiried y dyfarniad i Greawdwr y bydysawd, anogodd ei wŷr i ymdrechu'n wrol hyd angau dros y cyfreithiau, y deml, y ddinas, eu gwlad a'u ffordd o fyw. Gwersyllodd yn ardal Modin.

15. Rhoddodd yr arwyddair “Duw biau'r fuddugoliaeth” i'w wŷr, ac wedi dethol y dynion ifainc dewraf, ymosododd liw nos ar bencadlys y brenin a lladd hyd at ddwy fil o'r milwyr yn y gwersyll. Yn ogystal, trywanodd i farwolaeth yr eliffant blaenaf, ynghyd â'i ofalwr.

16. Erbyn y diwedd yr oeddent wedi llenwi'r gwersyll â braw a chynnwrf, ac aethant oddi yno yn fuddugoliaethus.

17. Ar doriad dydd yr oedd y gwaith wedi ei gwblhau, trwy gymorth ac amddiffyniad yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 13