Rhoddodd yr arwyddair “Duw biau'r fuddugoliaeth” i'w wŷr, ac wedi dethol y dynion ifainc dewraf, ymosododd liw nos ar bencadlys y brenin a lladd hyd at ddwy fil o'r milwyr yn y gwersyll. Yn ogystal, trywanodd i farwolaeth yr eliffant blaenaf, ynghyd â'i ofalwr.