2 Macabeaid 11:25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Gan hynny, yn unol â'n dewis nad oes tarfu i fod ar y genedl hon mwy na'r un arall, ein dyfarniad yw bod eu teml i gael ei hadfer iddynt a'u bod i fyw yn ôl arferion eu hynafiaid.