Wedi gwneud hynny, aethant ar eu hyd ar lawr a gofyn gan yr Arglwydd am i'r fath ddrygau beidio â disgyn arnynt byth eto; ond am iddynt, petaent byth yn pechu, gael eu disgyblu'n gymesur ganddo ef yn hytrach na'u traddodi i ddwylo cenhedloedd cableddus ac anwar.