Cyn gynted ag y lledodd haul y bore ei oleuni, aeth y ddwy fyddin i'r afael â'i gilydd. Yr oedd gan yr Iddewon nid yn unig eu dewrder ond nodded yr Arglwydd yn warant o'u llwyddiant a'u buddugoliaeth; ond am y lleill, eu cynddaredd oedd ganddynt hwy i'w harwain yn y drin.