Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 9:34-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Yn awr, pan fydd y ddaear yn derbyn had, neu'r môr long, neu lestr arall fwyd neu ddiod, os collir yr had, neu'r llong, neu gynnwys y llestr, yr arfer yw

35. mai eu cynnwys a gollir, ond bod y llestri a'u derbyniodd yn aros. Ond gyda ni, nid felly y mae.

36. Oherwydd derfydd amdanom ni, bechaduriaid, y rhai a dderbyniodd y gyfraith, a derfydd am ein calon, a fu'n llestr iddi.

37. Ond ni dderfydd am y gyfraith; y mae hi'n aros yn ei gogoniant.”

38. Pan oeddwn yn dweud y pethau hyn ynof fy hun, edrychais o'm cwmpas a gweld ar y dde imi wraig, a honno'n galaru ac yn wylofain â llais uchel, yn drallodus iawn ei hysbryd, ei dillad wedi eu rhwygo, a lludw ar ei phen.

39. Bwriais o'r neilltu y pethau a fu'n llenwi fy meddwl, a throi ati hi a dweud:

40. “Pam yr wyt ti'n wylo? A pham yr wyt yn drallodus?”

41. Atebodd hithau: “F'arglwydd, gad lonydd imi, i wylo drosof fy hun ac i ymollwng i'm galar, oherwydd yr wyf yn chwerw iawn fy ysbryd, a'm darostyngiad yn fawr.”

42. “Beth sydd wedi digwydd iti?” gofynnais. “Dywed wrthyf.”

43. Meddai hithau wrthyf: “Bûm i, dy wasanaethyddes, yn ddiffrwyth, ac er imi fod yn briod am ddeng mlynedd ar hugain nid oeddwn wedi dwyn plant.

44. A phob awr a phob diwrnod o'r deng mlynedd ar hugain hynny bûm yn gweddïo, nos a dydd, ar y Goruchaf.

45. Yna, ar ôl deng mlynedd ar hugain, gwrandawodd Duw arnaf fi, dy wasanaethferch; sylwodd ar fy narostyngiad, ystyriodd fy nhrallod, a rhoddodd imi fab. Mawr iawn oedd y llawenydd a gawsom ynddo, myfi a'm gŵr a'n holl gymdogion, a mawr iawn oedd y gogoniant a roesom i'r Duw nerthol.

46. Meithrinais ef â phob gofal,

47. ac wedi iddo dyfu'n ddyn euthum ati i gael gwraig iddo, a threfnu dydd y wledd briodas.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 9