31. Canys wele, yr wyf yn hau fy nghyfraith ynoch chwi; bydd yn dwyn ffrwyth ynoch, a chewch eich gogoneddu'n dragwyddol drwyddi.’ Ond er i'n hynafiaid dderbyn y gyfraith, ni chadwasant hi na pharchu'r deddfau.
32. Nid bod ffrwyth y gyfraith wedi darfod amdano; ni allai hynny ddigwydd, oherwydd eiddot ti oedd y ffrwyth;
33. ond darfu am y rhai a dderbyniodd y gyfraith, am na chadwent yn ddiogel yr hyn a heuwyd ynddynt.
34. Yn awr, pan fydd y ddaear yn derbyn had, neu'r môr long, neu lestr arall fwyd neu ddiod, os collir yr had, neu'r llong, neu gynnwys y llestr, yr arfer yw
35. mai eu cynnwys a gollir, ond bod y llestri a'u derbyniodd yn aros. Ond gyda ni, nid felly y mae.
36. Oherwydd derfydd amdanom ni, bechaduriaid, y rhai a dderbyniodd y gyfraith, a derfydd am ein calon, a fu'n llestr iddi.