Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 9:26-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Felly, yn unol â gair yr angel imi, euthum i faes a elwir Ardat, ac yno eisteddais ymysg y blodau; llysiau'r maes oedd fy mwyd, ac fe'u cefais yn ymborth digonol.

27. Ymhen y saith diwrnod yr oeddwn yn gorwedd ar y glaswellt, a'm calon wedi ei chythryblu eto fel o'r blaen.

28. Agorais fy ngenau, a dechreuais annerch y Goruchaf fel hyn:

29. “O Arglwydd, fe'th ddangosaist dy hun yn eglur yn ein plith, sef i'n hynafiaid yn yr anialwch; pan oeddent yn mynd allan o'r Aifft, ac yn teithio trwy'r anialwch disathr a diffrwyth, dywedaist wrthynt,

30. ‘Clyw fi, Israel; gwrando fy ngeiriau, had Jacob.

31. Canys wele, yr wyf yn hau fy nghyfraith ynoch chwi; bydd yn dwyn ffrwyth ynoch, a chewch eich gogoneddu'n dragwyddol drwyddi.’ Ond er i'n hynafiaid dderbyn y gyfraith, ni chadwasant hi na pharchu'r deddfau.

32. Nid bod ffrwyth y gyfraith wedi darfod amdano; ni allai hynny ddigwydd, oherwydd eiddot ti oedd y ffrwyth;

33. ond darfu am y rhai a dderbyniodd y gyfraith, am na chadwent yn ddiogel yr hyn a heuwyd ynddynt.

34. Yn awr, pan fydd y ddaear yn derbyn had, neu'r môr long, neu lestr arall fwyd neu ddiod, os collir yr had, neu'r llong, neu gynnwys y llestr, yr arfer yw

35. mai eu cynnwys a gollir, ond bod y llestri a'u derbyniodd yn aros. Ond gyda ni, nid felly y mae.

36. Oherwydd derfydd amdanom ni, bechaduriaid, y rhai a dderbyniodd y gyfraith, a derfydd am ein calon, a fu'n llestr iddi.

37. Ond ni dderfydd am y gyfraith; y mae hi'n aros yn ei gogoniant.”

38. Pan oeddwn yn dweud y pethau hyn ynof fy hun, edrychais o'm cwmpas a gweld ar y dde imi wraig, a honno'n galaru ac yn wylofain â llais uchel, yn drallodus iawn ei hysbryd, ei dillad wedi eu rhwygo, a lludw ar ei phen.

39. Bwriais o'r neilltu y pethau a fu'n llenwi fy meddwl, a throi ati hi a dweud:

40. “Pam yr wyt ti'n wylo? A pham yr wyt yn drallodus?”

41. Atebodd hithau: “F'arglwydd, gad lonydd imi, i wylo drosof fy hun ac i ymollwng i'm galar, oherwydd yr wyf yn chwerw iawn fy ysbryd, a'm darostyngiad yn fawr.”

42. “Beth sydd wedi digwydd iti?” gofynnais. “Dywed wrthyf.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 9