Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 7:31-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ac ar ôl saith diwrnod, deffroir yr oes nad yw hyd yma ar ddihun, a bydd farw yr oes lygradwy.

32. Bydd y ddaear yn rhoi'n ôl y rhai sy'n cysgu ynddi, a'r llwch y rhai sy'n trigo ynddo mewn distawrwydd; hefyd bydd yr ystafelloedd cudd yn rhoi'n ôl yr eneidiau a ymddiriedwyd iddynt hwy.

33. Datguddir y Goruchaf yn eistedd ar orseddfainc barn, ei dosturi ar ffo a'i hirymaros ar ben.

34. Barn yn unig fydd yn aros, gwirionedd fydd yn sefyll, a ffyddlondeb yn ymgryfhau.

35. Bydd tâl am waith yn dilyn, a'r wobr yn cael ei dangos; bydd gweithredoedd da ar ddihun, ac ni chaiff gweithredoedd drwg gysgu'n llonydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 7