Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 6:44-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. Oherwydd ar unwaith daeth ffrwythau allan yn llu aneirif, a phob math o bethau dymunol i'w blasu, ynghyd â blodau digymar eu lliw ac arogleuon persawrus tu hwnt. Dyna'r hyn a wnaed y trydydd dydd.

45. Y pedwerydd dydd gorchmynnaist ddyfod ysblander yr haul, a llewyrch y lleuad, a'r sêr yn eu trefn;

46. a gorchmynnaist iddynt wasanaethu dyn, a oedd ar fin cael ei lunio.

47. Y pumed dydd dywedaist wrth y seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, am iddi eni i'r byd greaduriaid byw, adar a physgod.

48. Ac felly, yn unol â'th orchymyn, cynhyrchodd y dŵr mud, difywyd, greaduriaid byw, i'r cenhedloedd gael traethu dy ryfeddodau di oherwydd hynny.

49. Yna diogelaist ddau greadur; enwaist un ohonynt Behemoth, a'th enw ar yr ail oedd Lefiathan.

50. Neilltuaist y naill oddi wrth y llall, oherwydd ni allai'r seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, eu dal hwy.

51. I Behemoth rhoddaist un o'r rhannau a sychwyd ar y trydydd dydd, iddo gael trigo yno, lle mae mil o fynyddoedd; ond i Lefiathan rhoddaist y seithfed ran, yr un ddyfriog.

52. Ac yr wyt wedi eu cadw hwy i'w bwyta gan bwy bynnag a fynni, a phryd bynnag y mynni.

53. Y chweched dydd gorchmynnaist i'r ddaear gynhyrchu ger dy fron anifeiliaid a bwystfilod ac ymlusgiaid.

54. A thros y rhain gosodaist Adda, a'i wneud yn ben ar bopeth a greaist; disgynyddion iddo ef ydym ni oll, dy bobl ddewisedig.

55. “Yr wyf wedi adrodd yr holl bethau hyn ger dy fron di, Arglwydd, am iti ddweud mai er ein mwyn ni y creaist y byd cyntaf hwn a wnaethost.

56. Ond am y cenhedloedd eraill, sy'n disgyn oddi wrth Adda, dywedaist nad ydynt hwy'n ddim, a'u bod yn debyg i boeryn, a chyffelybaist eu digonedd hwy i ddiferyn o ddŵr o lestr.

57. Eto, Arglwydd, wele yn awr y cenhedloedd hynny a gyfrifwyd yn ddim yn arglwyddiaethu arnom ni ac yn ein llyncu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 6