8. Hwyrach y byddit yn f'ateb i, ‘Nid wyf fi erioed wedi disgyn i'r dyfnder, nac i'r byd tanddaearol; nid wyf ychwaith erioed wedi esgyn i'r nefoedd.’
9. Ond ni ofynnais iti ond am y tân a'r gwynt a'r dydd, pethau yr wyt yn gyfarwydd â hwy ac na elli fyw hebddynt; ond hyd yn oed am y rhain, ni chefais ateb gennyt.”
10. Meddai ymhellach: “Nid yw'r gallu gennyt i ddeall y pethau hynny o'r eiddot yr wyt wedi tyfu yn eu cwmni.
11. Sut felly y dichon dy feddwl di amgyffred ffordd y Goruchaf? Sut y gall un sydd wedi ei ysu gan y byd llygredig ddeall anllygredigaeth?”
12. Pan glywais hyn, syrthiais ar fy hyd, a dweud wrtho: “Buasai'n well i ni fod heb ein geni na dod i fyw yng nghanol annuwioldeb, a dioddef heb ddeall pam.”
13. Atebodd yntau fi fel hyn: “Euthum allan i goedwig, ac yno yr oedd prennau'r maes yn cynllwyn â'i gilydd.
14. ‘Dewch’, meddent, ‘awn i ryfel yn erbyn y môr, a pheri iddo gilio o'n blaen, inni gael gwneud rhagor o goedwigoedd inni ein hunain.’
15. Yn yr un modd cynllwyniodd tonnau'r môr hwythau â'i gilydd, a dweud, ‘Dewch, awn i fyny a threchu coed y maes, i ennill yno diriogaeth ychwanegol inni ein hunain.’
16. Ond ofer fu cynllwyn y coed, oherwydd daeth tân a'u difa hwy.