Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 4:4-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Os gelli di ddehongli un ohonynt hwy i mi, yna fe ddangosaf fi i ti y ffordd yr wyt yn dyheu am ei gweld, ac fe ddysgaf iti pam y mae'r galon yn ddrwg.”

5. Dywedais i: “Llefara, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf: “Tyrd, pwysa i mi bwysau'r tân, mesura i mi fesur y gwynt, neu galw yn ôl i mi y dydd a aeth heibio.”

6. Atebais: “Gan nad oes neb byw a all wneud hynny, pam yr wyt yn fy holi ynglŷn â'r pethau hyn?”

7. Yna meddai wrthyf: “Beth pe bawn wedi gofyn i ti, ‘Pa nifer o drigfannau sydd yng nghanol y môr?’ Neu ‘Pa nifer o ffrydiau sydd yn nharddle'r dyfnder?’ Neu ‘Pa nifer o ffrydiau sydd uwchlaw'r ffurfafen?’ Neu ‘Pa le y mae'r ffyrdd allan o Baradwys?’

8. Hwyrach y byddit yn f'ateb i, ‘Nid wyf fi erioed wedi disgyn i'r dyfnder, nac i'r byd tanddaearol; nid wyf ychwaith erioed wedi esgyn i'r nefoedd.’

9. Ond ni ofynnais iti ond am y tân a'r gwynt a'r dydd, pethau yr wyt yn gyfarwydd â hwy ac na elli fyw hebddynt; ond hyd yn oed am y rhain, ni chefais ateb gennyt.”

10. Meddai ymhellach: “Nid yw'r gallu gennyt i ddeall y pethau hynny o'r eiddot yr wyt wedi tyfu yn eu cwmni.

11. Sut felly y dichon dy feddwl di amgyffred ffordd y Goruchaf? Sut y gall un sydd wedi ei ysu gan y byd llygredig ddeall anllygredigaeth?”

12. Pan glywais hyn, syrthiais ar fy hyd, a dweud wrtho: “Buasai'n well i ni fod heb ein geni na dod i fyw yng nghanol annuwioldeb, a dioddef heb ddeall pam.”

13. Atebodd yntau fi fel hyn: “Euthum allan i goedwig, ac yno yr oedd prennau'r maes yn cynllwyn â'i gilydd.

14. ‘Dewch’, meddent, ‘awn i ryfel yn erbyn y môr, a pheri iddo gilio o'n blaen, inni gael gwneud rhagor o goedwigoedd inni ein hunain.’

15. Yn yr un modd cynllwyniodd tonnau'r môr hwythau â'i gilydd, a dweud, ‘Dewch, awn i fyny a threchu coed y maes, i ennill yno diriogaeth ychwanegol inni ein hunain.’

16. Ond ofer fu cynllwyn y coed, oherwydd daeth tân a'u difa hwy.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 4