Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 4:35-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Onid ynglŷn â'r pethau hyn y bu eneidiau'r cyfiawn yn holi yn eu hystafelloedd cudd, a dweud: ‘Pa mor hir yr wyf fi i barhau i obeithio fel hyn? Pa bryd y gwelir y cynnyrch ar y llawr dyrnu, ac y cawn ninnau dderbyn ein gwobr?’

36. A dyma'r ateb a gawsant gan yr archangel Jeremiel: ‘Pan fydd rhif y rhai tebyg i chwi yn gyflawn. Oherwydd y mae'r Arglwydd wedi pwyso'r byd mewn clorian,

37. y mae wedi mesur yr amserau yn sicr, a'u rhifo'n derfynol; ni symuda ac ni chyffry mohonynt, hyd nes y bydd y rhif penodedig yn gyflawn.’ ”

38. “Ond edrych, f'arglwydd feistr,” meddwn i, “yr ydym ni oll llawn annuwioldeb.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 4