34. Meddai ef wrthyf: “Ni elli di brysuro mwy na'r Goruchaf; er dy fwyn dy hun yr wyt ti'n prysuro, ond mae'r Goruchaf yn prysuro er mwyn llawer.
35. Onid ynglŷn â'r pethau hyn y bu eneidiau'r cyfiawn yn holi yn eu hystafelloedd cudd, a dweud: ‘Pa mor hir yr wyf fi i barhau i obeithio fel hyn? Pa bryd y gwelir y cynnyrch ar y llawr dyrnu, ac y cawn ninnau dderbyn ein gwobr?’
36. A dyma'r ateb a gawsant gan yr archangel Jeremiel: ‘Pan fydd rhif y rhai tebyg i chwi yn gyflawn. Oherwydd y mae'r Arglwydd wedi pwyso'r byd mewn clorian,
37. y mae wedi mesur yr amserau yn sicr, a'u rhifo'n derfynol; ni symuda ac ni chyffry mohonynt, hyd nes y bydd y rhif penodedig yn gyflawn.’ ”
38. “Ond edrych, f'arglwydd feistr,” meddwn i, “yr ydym ni oll llawn annuwioldeb.
39. Hwyrach mai o'n hachos ni, o achos pechodau trigolion y ddaear, y cedwir y cyfiawn rhag gweld dyfodiad amser dyrnu.”
40. Atebodd ef: “Dos a gofyn i wraig feichiog a all y groth ddal ei gafael ar y plentyn o'i mewn pan fydd ei naw mis hi yn gyflawn.”
41. “Amhosibl, f'arglwydd!” meddwn i. Atebodd yntau: “Yn y byd tanddaearol y mae'r ystafelloedd cudd sy'n dal eneidiau yn debyg i groth.
42. Oherwydd fel y mae gwraig wrth esgor yn prysuro i gael diwedd ar wewyr anorfod esgor, felly hefyd y mae'r ystafelloedd cudd yn prysuro i roi'n ôl yr hyn a ymddiriedwyd iddynt o'r dechreuad.
43. Yna fe esbonnir i ti y pethau yr wyt yn dymuno eu gweld.”
44. Atebais fel hyn: “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, ac os yw'n bosibl, ac os wyf yn gymwys,
45. eglura hyn i mi hefyd: a oes mwy i ddod nag a aeth heibio, neu a yw'r rhan fwyaf eisoes wedi mynd heibio i ni?
46. Oherwydd gwn beth sydd wedi mynd, ond ni wn beth sydd eto i ddod.”
47. Meddai yntau wrthyf: “Saf ar y llaw dde i mi; fe rof finnau ddehongliad iti o'r pos.”
48. Felly sefais a gwylio, a dyma ffwrn danllyd yn mynd heibio imi; ac ar ôl i'r fflamau fynd heibio, edrychais a gweld bod mwg yn aros.
49. Ar ôl hyn aeth heibio imi gwmwl yn llawn dŵr, ac arllwysodd law trwm yn genllif; ac wedi i'r cenllif fynd heibio, yr oedd rhai diferion yn aros yn y cwmwl.
50. Yna meddai'r angel wrthyf: “Ystyria hyn drosot dy hun: fel y mae'r glaw yn fwy na'r diferion, a'r tân yn fwy na'r mwg, felly hefyd y mae'r gorffennol yn fwy o lawer ei hyd na'r dyfodol; nid oes ond diferion a mwg yn aros.”
51. Yna ymbiliais fel hyn: “A wyt ti'n tybio y caf fi fyw i weld y dyddiau hynny? Yn wir, pwy fydd yn bod yn y dyddiau hynny?”
52. Atebodd ef: “Gallaf ddweud rhywfaint wrthyt am yr arwyddion yr wyt yn fy holi amdanynt; ond ni chefais fy anfon i ddweud dim wrthyt am hyd dy einioes; nid yw'n hysbys imi.”