26. Atebodd ef fel hyn: “Os bydd iti oroesi, fe gei weld, ac os byddi byw, fe ryfeddi'n fynych, oherwydd y mae'r byd hwn yn prysur ddarfod.
27. Am ei fod yn llawn tristwch a llesgedd, ni all y byd hwn ddal y pethau a addawyd i'r rhai cyfiawn yn eu hiawn bryd.
28. Oherwydd y mae'r drwg yr wyt yn fy holi i amdano wedi ei hau, ond ni ddaeth amser ei fedi ef eto.
29. Hyd oni fedir yr hyn a heuwyd, a hyd oni ddiflanna'r lle yr heuwyd y drwg ynddo, nid ymddengys y maes lle'r heuwyd y da.
30. Heuwyd gronyn o had drwg yng nghalon Adda o'r dechreuad, a pha faint o annuwioldeb y mae eisoes wedi ei gynhyrchu, ac y bydd eto'n ei gynhyrchu hyd nes y daw amser dyrnu!
31. Cyfrif drosot dy hun gymaint o ffrwyth annuwioldeb y mae'r gronyn o had drwg wedi ei gynhyrchu.