Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 4:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Oherwydd yn yr un modd yn union ag y mae'r tir wedi ei roi i'r coed a'r môr i'r tonnau, felly pethau'r ddaear yn unig y gall trigolion y ddaear eu deall; trigolion y nefoedd sy'n deall pethau goruchel y nefoedd.”

22. “Ond atolwg, f'arglwydd,” meddwn innau, “pam y rhoddwyd i mi gynneddf deall?

23. Oherwydd nid oedd yn fy mryd i holi am y ffyrdd sydd uchod, ond am y pethau hynny sydd yn digwydd bob dydd o flaen ein llygaid. Pam y rhoddwyd Israel yn destun gwawd i'r cenhedloedd? Pam yr ildiwyd y bobl a geraist ti i lwythau annuwiol? Pam y mae cyfraith ein tadau wedi ei gwneud yn ddiddim, a'r cyfamodau ysgrifenedig wedi eu colli?

24. Yr ydym yn diflannu o'r byd fel locustiaid, y mae ein heinioes fel tarth, ac nid ydym yn deilwng i dderbyn trugaredd.

25. Ond beth a wna ef er mwyn ei enw ei hun, yr enw y'n gelwir ni wrtho? Dyna fy nghwestiynau i.”

26. Atebodd ef fel hyn: “Os bydd iti oroesi, fe gei weld, ac os byddi byw, fe ryfeddi'n fynych, oherwydd y mae'r byd hwn yn prysur ddarfod.

27. Am ei fod yn llawn tristwch a llesgedd, ni all y byd hwn ddal y pethau a addawyd i'r rhai cyfiawn yn eu hiawn bryd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 4