Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 4:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Atebodd yntau fi fel hyn: “Euthum allan i goedwig, ac yno yr oedd prennau'r maes yn cynllwyn â'i gilydd.

14. ‘Dewch’, meddent, ‘awn i ryfel yn erbyn y môr, a pheri iddo gilio o'n blaen, inni gael gwneud rhagor o goedwigoedd inni ein hunain.’

15. Yn yr un modd cynllwyniodd tonnau'r môr hwythau â'i gilydd, a dweud, ‘Dewch, awn i fyny a threchu coed y maes, i ennill yno diriogaeth ychwanegol inni ein hunain.’

16. Ond ofer fu cynllwyn y coed, oherwydd daeth tân a'u difa hwy.

17. A'r un modd cynllwyn tonnau'r môr, oherwydd safodd y tywod yn ddiysgog a'u rhwystro hwy.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 4