Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 2:38-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Codwch a safwch; gwelwch yng ngwledd yr Arglwydd nifer y rhai sydd wedi eu selio,

39. y rhai sydd wedi ymadael â chysgod y byd, ac wedi derbyn gwisgoedd disglair gan yr Arglwydd.

40. Derbyn, Seion, y rhifedi sydd i ti, a chwblha nifer y rhai mewn gwisgoedd gwynion sydd i ti, y rhai sydd wedi cadw cyfraith yr Arglwydd.

41. Y mae nifer dy blant, y buost yn hiraethu amdanynt, yn gyflawn; gofyn felly am deyrnasiad yr Arglwydd, ar i'th bobl, sydd wedi eu galw o'r dechreuad, gael eu sancteiddio.”

42. Gwelais i, Esra, ar Fynydd Seion dyrfa fawr na allwn ei rhifo, ac yr oeddent oll yn cydfoliannu'r Arglwydd ar gân.

43. Yn eu canol hwy yr oedd dyn ifanc o daldra mawr iawn, talach na phawb arall; yr oedd yn gosod coronau ar eu pennau hwy bob un, ac yr oedd ef yn dra dyrchafedig. Yr oeddwn i wedi fy nal gan ryfeddod,

44. ac yna gofynnais i'r angel, “Pwy yw'r rhain, f'arglwydd?”

45. Fe'm hatebodd fel hyn: “Dyma'r rhai sydd wedi rhoi heibio eu dillad marwol ac wedi gwisgo'r anfarwol, gan gyffesu enw Duw; yn awr coronir hwy, ac y maent yn derbyn palmwydd.”

46. Yna gofynnais i'r angel: “Pwy yw'r dyn ifanc acw sydd yn gosod coronau ar eu pennau a rhoi palmwydd yn eu dwylo?”

47. Fe'm hatebodd fel hyn: “Mab Duw yw ef, hwnnw y maent wedi ei gyffesu yn y byd hwn.” Dechreuais innau fawrygu'r rhai a safodd yn gadarn dros enw'r Arglwydd.

48. Yna dywedodd yr angel wrthyf: “Dos, a mynega i'm pobl natur a nifer y rhyfeddodau a welaist gan yr Arglwydd Dduw.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 2