Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 16:74-78 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

74. “Gwrandewch, fy etholedigion,” medd yr Arglwydd, “dyma ddyddiau'r cyfyngder wedi dod, ond fe'ch gwaredaf chwi ohonynt.

75. Peidiwch ag ofni na phetruso, oherwydd Duw yw eich arweinydd chwi.

76. Chwi sy'n cadw fy neddfau a'm gorchmynion i,” medd yr Arglwydd Dduw, “peidiwch â gadael i'ch pechodau gael y gorau arnoch, nac i'ch anghyfiawnderau gael y trechaf arnoch.

77. Gwae'r rhai sydd yn rhwym gan eu pechodau ac wedi eu gorchuddio gan eu hanghyfiawnderau. Y maent fel maes wedi ei oresgyn gan lwyni, a'i lwybr wedi ei orchuddio gan ddrain, heb ffordd i ddyn fynd trwyddo;

78. fe'i caeir, a'i draddodi i'w ddifa â thân.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 16