Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 16:36-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Dyma air yr Arglwydd; derbyniwch ef, a pheidiwch ag amau yr hyn sydd gan yr Arglwydd i'w ddweud.

37. Yn wir, y mae'r drygau yn agos; nid oes dal yn ôl arnynt.

38. Pan yw gwraig feichiog yn ei nawfed mis, a'i hamser i esgor yn agos, bydd poenau arteithiol yn ei chroth am ddwy neu dair awr; ond yna, pan yw'r baban yn dod allan o'r groth, ni all hi ddal ei phlentyn yn ôl am un munudyn.

39. Felly y daw'r drygau allan dros y ddaear yn ddi-oed, a bydd y byd yn griddfan gan y poenau sy'n ei ddal o bob tu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 16