Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 16:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y mae'r cleddyf wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w droi ymaith?

4. Y mae tân wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w ddiffodd?

5. Y mae drygau wedi eu gollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w gyrru yn eu hôl?

6. A all unrhyw un yrru llew newynog yn ei ôl mewn coedwig, neu ddiffodd tân mewn sofl unwaith y bydd wedi dechrau ffaglu?

7. A all unrhyw un droi yn ei ôl saeth a yrrwyd gan saethwr cryf?

8. Yr Arglwydd Dduw sy'n gyrru'r drygau, a phwy sydd i'w troi yn eu hôl?

9. Bydd tân yn mynd allan o'i lid ef, a phwy sydd i'w ddiffodd?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 16