Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 16:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. bydd un dyn yn hiraethu am weld rhywun arall neu glywed ei lais.

28. Oherwydd o ddinas gyfan gadewir deg; yng nghefn gwlad dau fydd ar ôl, yn ymguddio yn y fforestydd trwchus ac yn agennau'r creigiau.

29. Fel y gadewir tri neu bedwar olif ar bob coeden mewn perllan olewydd,

30. neu fel y gadewir rhai sypiau o rawnwin ar ôl mewn gwinllan hyd yn oed ar ôl ei chwilio'n ofalus gan gasglwyr llygatgraff,

31. felly yn y dyddiau hynny gadewir tri neu bedwar ar ôl gan y rhai fydd yn chwilio'r tai i ladd eu trigolion â'r cleddyf.

32. Gadewir y ddaear yn anghyfannedd, a meddiennir y meysydd gan ddrysni; bydd drain yn tyfu ar ffyrdd a holl lwybrau'r ddaear, am na bydd defaid yn eu tramwyo.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 16