Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 13:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ond pan geisiais weld y man neu'r lle y naddwyd y mynydd ohono, ni allwn.

8. Yna gwelais fod ofn mawr ar bawb oedd wedi ymgynnull i geisio'i drechu ef; er hynny, yr oeddent yn dal yn eu beiddgarwch i ymladd yn ei erbyn.

9. Pan welodd ef y llu yn dod i ymosod arno, ni wnaeth gymaint â chodi ei law, ac ni ddaliai na gwaywffon nac unrhyw arf rhyfel. Yn wir, yr unig beth a welais

10. oedd y modd y tywalltai rywbeth tebyg i lifeiriant o dân o'i enau, ac anadl fflamllyd o'i wefusau; ac o'i dafod tywalltai storm o wreichion. Cymysgwyd y rhain i gyd â'i gilydd—y llifeiriant tân, yr anadl fflamllyd, a'r storm fawr—

11. a syrthiodd y crynswth hwnnw ar ben y llu ymosodwyr oedd yn barod i ymladd, a'u llosgi i gyd. Yn sydyn, nid oedd dim i'w weld o'r llu dirifedi ond lludw llychlyd ac arogl mwg. Edrychais, ac fe'm syfrdanwyd.

12. Wedyn gwelais y dyn hwnnw yn dod i lawr o'r mynydd ac yn galw ato'i hun dyrfa arall, un heddychlon.

13. Ato daeth llawer o bobl, a'u gwedd yn amrywio: rhai yn llawen, eraill yn drist; rhai yn wir mewn rhwymau, ac eraill yn dwyn ato offrymau o blith y rhai a aberthid.

14. Dihunais innau mewn dychryn mawr, a gweddïo ar y Goruchaf fel hyn: “O'r dechrau yr wyt wedi dangos y rhyfeddodau hyn i'th was, a'm cyfrif yn un a deilyngai dderbyn ohonot ei weddi.

15. Yn awr dangos i mi beth yw ystyr y freuddwyd hon hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 13