48. Dyna'r rheswm pam y gwelaist y dyrfa wedi ei chynnull mewn heddwch. Gyda hwy hefyd y mae'r rhai a adawyd yn weddill o'th bobl di, y rhai a geir o fewn fy nherfynau sanctaidd i.
49. Felly, pan fydd ef yn dechrau difetha'r llu cenhedloedd a gynullwyd, bydd yn gwarchod dros ei bobl a adawyd yn weddill,
50. a daw iddynt lawer o ryfeddodau mawr.”
51. Yna meddwn innau: “Arglwydd Iôr, eglura i mi pam y gwelais y dyn hwnnw yn codi o eigion y môr”. Atebodd ef fi:
52. “Fel y mae'n amhosibl i unrhyw un chwilio dyfnderoedd y môr a gwybod beth sydd yno, felly hefyd ni all neb ar y ddaear weld fy mab na'r rhai sydd gydag ef, hyd oni ddaw ei ddydd.
53. Dyna felly ddehongliad y freuddwyd a gefaist. Ti'n unig a oleuwyd yn y pethau hyn,
54. a hynny am dy fod wedi gadael dy ffyrdd dy hun ac wedi ymroi i'm rhai i, a chwilio fy nghyfraith yn fanwl.
55. Cyfeiriaist dy fywyd i ffordd doethineb, a gelwaist ddeall yn fam i ti.
56. Dangosais hyn oll i ti, am fod i ti wobr gyda'r Goruchaf; ymhen tri diwrnod eto bydd gennyf ragor i'w ddweud wrthyt, a mynegaf iti bethau pwysfawr a rhyfeddol.”
57. Felly cychwynnais ar draws y maes, gan ogoneddu a chlodfori'r Goruchaf yn fawr am y rhyfeddodau a wnaeth ef yn eu pryd,
58. ac am ei fod yn llywodraethu'r amseroedd a phopeth sy'n digwydd ynddynt. Ac yno yr arhosais am dridiau.