Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 13:41-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Ond gwnaethant hwy y penderfyniad hwn rhyngddynt a'i gilydd, sef gadael y llu cenhedloedd, a theithio ymlaen i wlad fwy pellennig, lle nad oedd yr hil ddynol erioed wedi trigo,

42. ac yno, o'r diwedd, gadw gofynion eu cyfraith nad oeddent wedi eu parchu yn eu gwlad eu hunain.

43. Wrth iddynt groesi ar draws mynedfeydd cyfyng Afon Ewffrates,

44. rhoddodd y Goruchaf iddynt arwyddion, gan atal ffrydiau'r afon hyd nes iddynt fynd trosodd.

45. Yr oedd eu taith drwy'r wlad honno, a elwir Arsareth, yn un hir, yn para blwyddyn a hanner.

46. Oddi ar hynny y maent wedi byw yno, hyd yr amser diwethaf hwn. Ac yn awr y maent ar fin dychwelyd,

47. ac unwaith eto bydd y Goruchaf yn atal ffrydiau'r afon iddynt gael croesi.

48. Dyna'r rheswm pam y gwelaist y dyrfa wedi ei chynnull mewn heddwch. Gyda hwy hefyd y mae'r rhai a adawyd yn weddill o'th bobl di, y rhai a geir o fewn fy nherfynau sanctaidd i.

49. Felly, pan fydd ef yn dechrau difetha'r llu cenhedloedd a gynullwyd, bydd yn gwarchod dros ei bobl a adawyd yn weddill,

50. a daw iddynt lawer o ryfeddodau mawr.”

51. Yna meddwn innau: “Arglwydd Iôr, eglura i mi pam y gwelais y dyn hwnnw yn codi o eigion y môr”. Atebodd ef fi:

52. “Fel y mae'n amhosibl i unrhyw un chwilio dyfnderoedd y môr a gwybod beth sydd yno, felly hefyd ni all neb ar y ddaear weld fy mab na'r rhai sydd gydag ef, hyd oni ddaw ei ddydd.

53. Dyna felly ddehongliad y freuddwyd a gefaist. Ti'n unig a oleuwyd yn y pethau hyn,

54. a hynny am dy fod wedi gadael dy ffyrdd dy hun ac wedi ymroi i'm rhai i, a chwilio fy nghyfraith yn fanwl.

55. Cyfeiriaist dy fywyd i ffordd doethineb, a gelwaist ddeall yn fam i ti.

56. Dangosais hyn oll i ti, am fod i ti wobr gyda'r Goruchaf; ymhen tri diwrnod eto bydd gennyf ragor i'w ddweud wrthyt, a mynegaf iti bethau pwysfawr a rhyfeddol.”

57. Felly cychwynnais ar draws y maes, gan ogoneddu a chlodfori'r Goruchaf yn fawr am y rhyfeddodau a wnaeth ef yn eu pryd,

58. ac am ei fod yn llywodraethu'r amseroedd a phopeth sy'n digwydd ynddynt. Ac yno yr arhosais am dridiau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 13