Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 13:32-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. A phan ddaw hyn i fod, a phan ddigwydd yr arwyddion a ddangosais iti o'r blaen, yna datguddir fy mab, sef y dyn a welaist ti yn codi o'r môr.

33. Yna, pan glyw yr holl genhedloedd ei lais ef, bydd pob un ohonynt yn gadael ei gwlad ei hun ac yn rhoi'r gorau i ryfela yn erbyn ei gilydd,

34. ac fe'u cesglir ynghyd yn un llu aneirif, fel y gwelaist, â'u bryd ar ddod a'i drechu ef.

35. Ond bydd ef yn sefyll ar ben Mynydd Seion;

36. a daw Seion yn amlwg i bawb, wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, yn cyfateb i'r modd y gwelaist y mynydd yn cael ei naddu heb gymorth llaw dyn.

37. Bydd ef, fy mab, yn ceryddu am eu hannuwioldeb y cenhedloedd a ddaw yno; y mae hynny'n cyfateb i'r storm. Bydd hefyd yn edliw iddynt yn eu hwynebau eu bwriadau drwg a'r poenedigaethau y maent i'w dioddef;

38. hynny sy'n cyfateb i'r fflam. Ac yn ddiymdrech fe'u difetha hwy drwy'r gyfraith; hynny sy'n cyfateb i'r tân.

39. Ynglŷn â'th weledigaeth ohono'n casglu tyrfa arall, un heddychlon, ato'i hun,

40. dyna'r deg llwyth a gaethgludwyd allan o'u gwlad yn nyddiau'r Brenin Hosea Dygodd Salmaneser brenin Asyria ef yn gaeth, ac alltudio'r llwythau y tu hwnt i'r Afon, a'u dwyn i wlad arall.

41. Ond gwnaethant hwy y penderfyniad hwn rhyngddynt a'i gilydd, sef gadael y llu cenhedloedd, a theithio ymlaen i wlad fwy pellennig, lle nad oedd yr hil ddynol erioed wedi trigo,

42. ac yno, o'r diwedd, gadw gofynion eu cyfraith nad oeddent wedi eu parchu yn eu gwlad eu hunain.

43. Wrth iddynt groesi ar draws mynedfeydd cyfyng Afon Ewffrates,

44. rhoddodd y Goruchaf iddynt arwyddion, gan atal ffrydiau'r afon hyd nes iddynt fynd trosodd.

45. Yr oedd eu taith drwy'r wlad honno, a elwir Arsareth, yn un hir, yn para blwyddyn a hanner.

46. Oddi ar hynny y maent wedi byw yno, hyd yr amser diwethaf hwn. Ac yn awr y maent ar fin dychwelyd,

47. ac unwaith eto bydd y Goruchaf yn atal ffrydiau'r afon iddynt gael croesi.

48. Dyna'r rheswm pam y gwelaist y dyrfa wedi ei chynnull mewn heddwch. Gyda hwy hefyd y mae'r rhai a adawyd yn weddill o'th bobl di, y rhai a geir o fewn fy nherfynau sanctaidd i.

49. Felly, pan fydd ef yn dechrau difetha'r llu cenhedloedd a gynullwyd, bydd yn gwarchod dros ei bobl a adawyd yn weddill,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 13