15. Yn awr dangos i mi beth yw ystyr y freuddwyd hon hefyd.
16. Oherwydd, yn ôl yr hyn yr wyf fi'n ei ddeall, gwae'r rhai a adewir yn y dyddiau hynny, ond gymaint mwy y gwae i'r rhai ni adewir!
17. Oblegid bydd y rhai ni adewir yn drist,
18. am eu bod yn gwybod beth sydd ynghadw yn y dyddiau diwethaf, a hwythau'n ei golli.
19. Ond gwae hefyd y rhai a adewir, oherwydd byddant hwy'n gweld peryglon mawr a chyfyngderau lawer, fel y mae'r breuddwydion hyn yn dangos.
20. Eto i gyd, gwell dioddef y perygl a chyrraedd y pethau hyn na diflannu fel cwmwl o'r byd, heb weld yr hyn a ddigwydd yn y diwedd.”
21. Atebodd fi fel hyn: “Fe ddehonglaf y weledigaeth iti, ac at hynny egluraf ynglŷn â'r pethau y buost yn siarad amdanynt.
22. Cyfeiriaist at y rhai a adewir, a dyma'r dehongliad:
23. yr un a fydd yn achos perygl yn yr amser hwnnw, ef ei hun hefyd fydd yn gwarchod yn eu perygl y rhai y mae ganddynt weithredoedd a ffydd yn yr Hollalluog.
24. Felly gwybydd mai mwy yw gwynfyd y rhai a adewir na'r eiddo y rhai a fu farw.
25. Dyma ddehongliad y weledigaeth: y dyn a welaist yn dod i fyny o eigion y môr
26. yw'r un y mae'r Goruchaf yn ei gadw'n barod drwy oesoedd lawer; bydd ef ei hun yn gwaredu ei greadigaeth ac yn pennu tynged y rhai a adewir.
27. Ynglŷn â'r anadl a'r tân a'r storm a welaist yn dod allan o'i enau,
28. ac yntau heb na gwaywffon nac arf rhyfel yn difetha ymosodiad y llu a ddaeth i ymladd yn ei erbyn, dyma'r dehongliad:
29. y mae'r dyddiau'n wir yn dod pan fydd y Goruchaf yn dechrau gwaredu'r rhai sydd ar y ddaear.