12. Wedyn gwelais y dyn hwnnw yn dod i lawr o'r mynydd ac yn galw ato'i hun dyrfa arall, un heddychlon.
13. Ato daeth llawer o bobl, a'u gwedd yn amrywio: rhai yn llawen, eraill yn drist; rhai yn wir mewn rhwymau, ac eraill yn dwyn ato offrymau o blith y rhai a aberthid.
14. Dihunais innau mewn dychryn mawr, a gweddïo ar y Goruchaf fel hyn: “O'r dechrau yr wyt wedi dangos y rhyfeddodau hyn i'th was, a'm cyfrif yn un a deilyngai dderbyn ohonot ei weddi.
15. Yn awr dangos i mi beth yw ystyr y freuddwyd hon hefyd.
16. Oherwydd, yn ôl yr hyn yr wyf fi'n ei ddeall, gwae'r rhai a adewir yn y dyddiau hynny, ond gymaint mwy y gwae i'r rhai ni adewir!
17. Oblegid bydd y rhai ni adewir yn drist,
18. am eu bod yn gwybod beth sydd ynghadw yn y dyddiau diwethaf, a hwythau'n ei golli.
19. Ond gwae hefyd y rhai a adewir, oherwydd byddant hwy'n gweld peryglon mawr a chyfyngderau lawer, fel y mae'r breuddwydion hyn yn dangos.
20. Eto i gyd, gwell dioddef y perygl a chyrraedd y pethau hyn na diflannu fel cwmwl o'r byd, heb weld yr hyn a ddigwydd yn y diwedd.”
21. Atebodd fi fel hyn: “Fe ddehonglaf y weledigaeth iti, ac at hynny egluraf ynglŷn â'r pethau y buost yn siarad amdanynt.
22. Cyfeiriaist at y rhai a adewir, a dyma'r dehongliad:
23. yr un a fydd yn achos perygl yn yr amser hwnnw, ef ei hun hefyd fydd yn gwarchod yn eu perygl y rhai y mae ganddynt weithredoedd a ffydd yn yr Hollalluog.
24. Felly gwybydd mai mwy yw gwynfyd y rhai a adewir na'r eiddo y rhai a fu farw.