Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymhen y saith diwrnod cefais freuddwyd liw nos,

2. a gweld gwynt yn codi o'r môr ac yn cynhyrfu ei holl donnau ef.

3. Edrychais, a dyma'r gwynt hwnnw yn peri bod rhywbeth tebyg i ddyn yn dod i fyny o eigion y môr, a gwelais y dyn hwn yn ehedeg gyda chymylau'r nef. Ble bynnag y trôi ef ei wyneb i edrych, crynai popeth y syllai arno;

4. a phle bynnag yr â'i llais allan o'i enau ef, toddai pob un a'i clywai, fel cŵyr yn toddi ar gyffyrddiad tân.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 13