Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 13:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymhen y saith diwrnod cefais freuddwyd liw nos,

2. a gweld gwynt yn codi o'r môr ac yn cynhyrfu ei holl donnau ef.

3. Edrychais, a dyma'r gwynt hwnnw yn peri bod rhywbeth tebyg i ddyn yn dod i fyny o eigion y môr, a gwelais y dyn hwn yn ehedeg gyda chymylau'r nef. Ble bynnag y trôi ef ei wyneb i edrych, crynai popeth y syllai arno;

4. a phle bynnag yr â'i llais allan o'i enau ef, toddai pob un a'i clywai, fel cŵyr yn toddi ar gyffyrddiad tân.

5. Yna gwelais lu aneirif o ddynion yn ymgynnull, o bedwar gwynt y nefoedd, i ryfela yn erbyn y dyn oedd wedi codi o'r môr.

6. Ac wrth imi edrych, dyma yntau yn naddu iddo'i hun fynydd mawr, ac yn hedfan i fyny arno.

7. Ond pan geisiais weld y man neu'r lle y naddwyd y mynydd ohono, ni allwn.

8. Yna gwelais fod ofn mawr ar bawb oedd wedi ymgynnull i geisio'i drechu ef; er hynny, yr oeddent yn dal yn eu beiddgarwch i ymladd yn ei erbyn.

9. Pan welodd ef y llu yn dod i ymosod arno, ni wnaeth gymaint â chodi ei law, ac ni ddaliai na gwaywffon nac unrhyw arf rhyfel. Yn wir, yr unig beth a welais

10. oedd y modd y tywalltai rywbeth tebyg i lifeiriant o dân o'i enau, ac anadl fflamllyd o'i wefusau; ac o'i dafod tywalltai storm o wreichion. Cymysgwyd y rhain i gyd â'i gilydd—y llifeiriant tân, yr anadl fflamllyd, a'r storm fawr—

11. a syrthiodd y crynswth hwnnw ar ben y llu ymosodwyr oedd yn barod i ymladd, a'u llosgi i gyd. Yn sydyn, nid oedd dim i'w weld o'r llu dirifedi ond lludw llychlyd ac arogl mwg. Edrychais, ac fe'm syfrdanwyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 13