Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 4:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau â phres.

10. Gosododd y môr ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tŷ.

11. Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ Dduw:

12. y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;

13. y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 4