Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 4:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.

16. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.

17. Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.

18. Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.

19. Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod;

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 4