Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 4:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. y deg troli; y deg noe ar y trolïau;

15. y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.

16. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.

17. Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.

18. Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 4