Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 4:12-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;

13. y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;

14. y deg troli; y deg noe ar y trolïau;

15. y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.

16. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.

17. Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.

18. Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.

19. Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod;

20. y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn ôl y ddefod;

21. y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith;

22. y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tŷ a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y côr.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 4