Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 27:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Brwydrodd yn erbyn yr Ammoniaid a'u brenin, a'u trechu. Y flwyddyn honno rhoddodd yr Ammoniaid iddo gan talent o arian, deng mil corus o wenith a deng mil corus o haidd; rhoesant yr un faint iddo yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.

6. Ymgryfhaodd Jotham am iddo drefnu ei fywyd yn ôl ewyllys yr ARGLWYDD ei Dduw.

7. Am weddill hanes Jotham, ei holl ryfeloedd a'i arferion, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 27