Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 14:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Jeroboam yn frenin yn ei le.

17. Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd wedi i Jehoas fab Jehoahas, brenin Israel, farw.

18. Am weddill hanes Amaseia, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

19. Pan gynlluniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem, ffodd i Lachis, ond anfonwyd ar ei ôl i Lachis a'i ladd yno,

20. a chludwyd ef ar feirch i Jerwsalem, a'i gladdu gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.

21. Yna cymerodd holl bobl Jwda Asareia, a oedd yn un ar bymtheg oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 14