Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Amaseia Brenin Jwda

1. Yn ail flwyddyn Joas fab Jehoahas brenin Israel, daeth Amaseia fab Jehoas yn frenin ar Jwda.

2. Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Jehoadan o Jerwsalem oedd enw ei fam.

3. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad fel ei dad Dafydd; gwnaeth yn union fel ei dad Jehoas.

4. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

5. Wedi iddo sicrhau ei afael ar y deyrnas, lladdodd y gweision oedd wedi lladd y brenin ei dad,

6. ond ni roddodd blant y lleiddiaid i farwolaeth, yn unol â'r hyn sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, “Na rodder rhieni i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir un i farwolaeth.”

7. Trawodd Amaseia ddeng mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen, a chymryd Sela mewn brwydr a'i enwi'n Joctheel hyd heddiw.

8. Yna anfonodd genhadau at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, “Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb.”

9. Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda, a dweud, “Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon yn dweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i'm mab.’ Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.

10. Gorchfygaist Edom ac aethost yn ffroenuchel. Mwynha d'ogoniant, ac aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr i'th ganlyn?”

11. Ond ni fynnai Amaseia wrando; felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.

12. Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.

13. Wedi i Joas brenin Israel ddal Amaseia fab Jehoas, fab Ahaseia, brenin Jwda, yn Beth-semes, aeth yn ei flaen i Jerwsalem a thorri i lawr fur Jerwsalem o borth Effraim hyd borth y gongl, sef pedwar can cufydd.

14. Hefyd aeth â'r holl aur, arian a chelfi a gafwyd yn y deml ac yng nghoffrau'r palas; yna cymerodd wystlon, a dychwelodd i Samaria.

15. Am weddill hanes Joas, a'i wrhydri a'i frwydr yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

16. Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Jeroboam yn frenin yn ei le.

Marwolaeth Amaseia Brenin Jwda

17. Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd wedi i Jehoas fab Jehoahas, brenin Israel, farw.

18. Am weddill hanes Amaseia, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

19. Pan gynlluniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem, ffodd i Lachis, ond anfonwyd ar ei ôl i Lachis a'i ladd yno,

20. a chludwyd ef ar feirch i Jerwsalem, a'i gladdu gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.

21. Yna cymerodd holl bobl Jwda Asareia, a oedd yn un ar bymtheg oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.

22. Ef a ailadeiladodd Elath a'i hadfer i Jwda wedi i'r brenin orwedd gyda'i dadau.

Jeroboam II Brenin Israel

23. Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia fab Jehoas brenin Jwda, daeth Jeroboam fab Jehoahas brenin Israel yn frenin yn Samaria am un mlynedd a deugain.

24. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ni throdd oddi wrth holl bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

25. Adferodd oror Israel o Lebo-hamath hyd Fôr yr Araba, yn unol â'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, drwy ei was Jona fab Amittai y proffwyd o Gath-heffer.

26. Gwelodd yr ARGLWYDD fod cystudd Israel yn flin iawn i gaeth a rhydd fel ei gilydd, ac nid oedd neb i gynorthwyo Israel.

27. Ond nid oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y dileai enw Israel yn llwyr, a gwaredodd hwy drwy Jeroboam fab Jehoahas.

28. Am weddill hanes Jeroboam, a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth ymladd ac wrth adfer Damascus a Hamath-iawdi i Israel, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

29. Bu farw Jeroboam, a'i gladdu gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Sechareia yn frenin yn ei le.