Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 8:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Fe ddegyma'ch defaid, a byddwch chwithau'n gaethweision iddo.

18. A'r dydd hwnnw byddwch yn protestio oherwydd y brenin y byddwch wedi ei ddewis; ond ni fydd yr ARGLWYDD yn eich ateb y diwrnod hwnnw.”

19. Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. “Na,” meddent, “y mae'n rhaid inni gael brenin,

20. i ni fod yr un fath â'r holl genhedloedd, gyda brenin i'n barnu a'n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau.”

21. Gwrandawodd Samuel ar y cwbl a ddywedodd y bobl, a'i adrodd wrth yr ARGLWYDD.

22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Gwrando ar eu cais, a rho frenin iddynt.” A dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Ewch adref bob un.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 8