Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Bobl yn Gofyn am Frenin

1. Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid.

2. Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba.

3. Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cildwrn ac yn gwyro barn.

4. Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama,

5. a dweud wrtho, “Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath â'r holl genhedloedd.”

6. Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, “Rho inni frenin i'n barnu”, a gweddïodd Samuel ar yr ARGLWYDD.

7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt.

8. Yn union fel y gwnaethant â mi o'r dydd y dygais hwy i fyny o'r Aifft hyd heddiw, sef fy ngadael a gwasanaethu duwiau eraill, felly hefyd y gwnânt â thithau.

9. Gwrando'n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio'n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt.”

10. Mynegodd Samuel holl eiriau'r ARGLWYDD wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin ganddo,

11. a dweud, “Dyma ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnoch: fe gymer eich meibion a'u gwneud yn gerbydwyr ac yn farchogion i fynd o flaen ei gerbyd.

12. Gwna rai ohonynt yn gapteiniaid mil a chapteiniaid hanner cant, eraill i aredig ei dir ac i fedi ei gynhaeaf, ac eraill i wneud ei arfau rhyfel ac offer ei gerbydau.

13. Fe gymer eich merched yn bersawresau, yn gogyddesau ac yn bobyddesau;

14. cymer hefyd eich meysydd, eich gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau a'u rhoi i'w weision;

15. bydd yn degymu'ch ŷd a'ch gwinllannoedd ac yn ei rannu i'w swyddogion a'i weision;

16. ac yn cymryd eich llafurwyr a'ch morynion, eich bustych gorau a'ch asynnod, ar gyfer ei waith ei hun.

17. Fe ddegyma'ch defaid, a byddwch chwithau'n gaethweision iddo.

18. A'r dydd hwnnw byddwch yn protestio oherwydd y brenin y byddwch wedi ei ddewis; ond ni fydd yr ARGLWYDD yn eich ateb y diwrnod hwnnw.”

19. Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. “Na,” meddent, “y mae'n rhaid inni gael brenin,

20. i ni fod yr un fath â'r holl genhedloedd, gyda brenin i'n barnu a'n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau.”

21. Gwrandawodd Samuel ar y cwbl a ddywedodd y bobl, a'i adrodd wrth yr ARGLWYDD.

22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Gwrando ar eu cais, a rho frenin iddynt.” A dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Ewch adref bob un.”