Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Philistiaid yn Gwrthod Dafydd

1. Casglodd y Philistiaid eu holl fyddin i Affec, ac yr oedd Israel yn gwersyllu ger ffynnon yn Jesreel.

2. Yr oedd tywysogion y Philistiaid yn gorymdeithio fesul cannoedd a miloedd, a Dafydd a'i filwyr yn gorymdeithio yn olaf, gydag Achis.

3. Ac meddai capteiniaid y Philistiaid, “Pwy yw'r Hebreaid hyn?” Atebodd Achis hwy: “Dafydd, wrth gwrs, gwas Saul brenin Israel; y mae wedi bod gyda mi am flwyddyn, os nad dwy, ac nid wyf wedi cael dim o'i le ynddo o'r diwrnod y cyrhaeddodd hyd heddiw.”

4. Ond aeth capteiniaid y Philistiaid yn ddig wrtho a dweud, “Anfon y dyn i ffwrdd; aed yn ôl i'r lle a ddarperaist iddo. Ni chaiff ddod i lawr gyda ni i'r frwydr, rhag iddo droi'n wrthwynebydd i ni yn ystod y frwydr. Sut y gallai hwn ennill ffafr ei arglwydd yn well nag â phennau'r milwyr hyn?

5. Onid hwn yw Dafydd, yr oeddent yn canu amdano yn y dawnsfeydd:“ ‘Lladdodd Saul ei filoedd,a Dafydd ei fyrddiynau’?”

6. Galwodd Achis ar Ddafydd a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr wyt yn ddyn cywir ac wedi ymddwyn yn foddhaol yn fy ngolwg tra buost gyda mi yn y gwersyll; nid wyf wedi cael dim o'i le ynot ti o'r dydd y daethost ataf hyd heddiw; ond nid wyt yn dderbyniol yng ngolwg tywysogion y Philistiaid.

7. Felly'n awr, dychwel, a dos mewn heddwch, rhag iti dramgwyddo tywysogion y Philistiaid.”

8. Dywedodd Dafydd wrth Achis, “Ond beth a wneuthum? Pa fai a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum atat hyd heddiw, fel na chaf ddod i ryfela yn erbyn gelynion f'arglwydd frenin?”

9. Atebodd Achis a dweud wrth Ddafydd, “Gwn dy fod cystal ag angel yn fy ngolwg i, ond y mae tywysogion y Philistiaid wedi dweud na chei di ddod gyda ni i'r frwydr.

10. Felly, yn gynnar bore yfory, bydd di, a gweision eraill dy arglwydd a ddaeth gyda thi, yn barod; byddwch yn barod i gychwyn cyn gynted ag y bydd yn olau.”

11. Cododd Dafydd a'i filwyr yn gynnar drannoeth i fynd yn ôl i Philistia, ac aeth y Philistiaid ymlaen i Jesreel.