Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 26:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth y Siffiaid at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon?”

2. Aeth Saul ar unwaith i lawr i ddiffeithwch Siff, a thair mil o wŷr dewisol Israel gydag ef, i chwilio am Ddafydd yno.

3. Gwersyllodd Saul ar y briffordd ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon, tra oedd Dafydd yn aros yn yr anialwch.

4. Pan welodd Dafydd fod Saul yn dod i'r anialwch ar ei ôl, anfonodd ysbiwyr a chael sicrwydd fod Saul wedi dod.

5. Aeth Dafydd ar unwaith i'r man lle'r oedd Saul yn gwersyllu, a gweld lle'r oedd ef a'i gadfridog Abner fab Ner yn cysgu. Yr oedd Saul yn cysgu yng nghanol y gwersyll, a'r milwyr yn gwersyllu o'i gwmpas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 26