Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 1:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Tyngodd adduned a dweud, “O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio â'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth.”

12. Tra oedd hi'n parhau i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau.

13. Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed.

14. Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, “Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win.”

15. Atebodd Hanna, “Nage, syr, gwraig helbulus wyf fi; nid wyf wedi yfed gwin na diod gadarn; arllwys fy nghalon gerbron yr ARGLWYDD yr oeddwn.

16. Paid â'm hystyried yn ddynes ofer, oherwydd o ganol fy nghŵyn a'm cystudd yr oeddwn yn siarad gynnau.”

17. Atebodd Eli, “Dos mewn heddwch, a rhodded Duw Israel iti yr hyn a geisiaist ganddo.”

18. Dywedodd hithau, “Bydded imi gael ffafr yn dy olwg.” Yna aeth i ffwrdd a bwyta, ac nid oedd mwyach yn drist.

19. Bore trannoeth, wedi iddynt godi ac addoli'r ARGLWYDD, aethant yn ôl adref i Rama.

20. Cafodd Elcana gyfathrach â'i wraig Hanna a chofiodd yr ARGLWYDD hi. Beichiogodd Hanna, ac ymhen amser geni mab a'i alw'n Samuel, oherwydd: “Gan yr ARGLWYDD y gofynnais amdano.”

21. Aeth y gŵr Elcana a'i holl deulu i offrymu ei aberth blynyddol i'r ARGLWYDD, ac i dalu adduned.

22. Nid aeth Hanna, ond dywedodd wrth ei gŵr, “Cyn gynted ag y bydd y bachgen wedi ei ddiddyfnu, af ag ef i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD, a chaiff aros yno am byth.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 1