1 Samuel 1:23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Dywedodd ei gŵr Elcana wrthi, “Gwna'r hyn sydd orau yn d'olwg; aros nes y byddi wedi ei ddiddyfnu, ond bydded i'r ARGLWYDD gyflawni d'addewid.” Felly arhosodd y wraig gartref a magu ei phlentyn nes ei ddiddyfnu.