Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 9:62-69 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

62. Enciliodd Jonathan a'i wŷr, ynghyd â Simon, i Bethbasi yn yr anialwch; ailgododd y rhannau adfeiliedig ohoni, a'i chadarnhau.

63. Pan ddeallodd Bacchides hyn cynullodd ei holl fyddin ynghyd ac anfonodd wŷs at wŷr Jwdea.

64. Yna daeth a gwersyllu gyferbyn â Bethbasi; ymladdodd yn ei herbyn am ddyddiau lawer, gan godi peiriannau rhyfel.

65. Ond gadawodd Jonathan ei frawd Simon yn y dref, a mynd allan i'r wlad, heb ond ychydig o wŷr i'w ganlyn.

66. Trawodd Odomera a'i frodyr a meibion Phasiron yn eu pabell, a dechreusant ymosod a mynd i'r gad gyda'u lluoedd.

67. Daeth Simon a'i wŷr hwythau allan o'r ddinas a rhoi'r peiriannau rhyfel ar dân. Ymladdasant yn erbyn Bacchides a'i orchfygu.

68. Buont yn achos gofid mawr iddo, oherwydd fod ei gynllun a'i gyrch bellach yn ofer.

69. Yn ei ddicter mawr tuag at y gwŷr digyfraith hynny a gawsai berswâd arno i ddod i'r wlad, lladdodd lawer ohonynt. Yna penderfynodd Bacchides ddychwelyd i'w wlad ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 9