Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 9:58-71 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

58. Yna ymgynghorodd yr holl rai digyfraith gan ddweud, “Edrychwch, y mae Jonathan a'i wŷr yn llawn hyder ac yn trigo mewn llonyddwch; yn awr felly gadewch i ni gael Bacchides yn ôl, ac fe'u deil ef hwy i gyd mewn un noson.”

59. Yna aethant a chydymgynghori ag ef.

60. Cychwynnodd yntau ar ei ffordd gyda llu mawr, a gyrrodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gefnogwyr yn Jwdea, yn eu hannog i ddal Jonathan a'i wŷr. Ond ni lwyddasant, oherwydd daeth eu bwriad yn hysbys.

61. Daliwyd tua hanner cant o wŷr y wlad a fu'n flaenllaw yn yr anfadwaith, a lladdwyd hwy.

62. Enciliodd Jonathan a'i wŷr, ynghyd â Simon, i Bethbasi yn yr anialwch; ailgododd y rhannau adfeiliedig ohoni, a'i chadarnhau.

63. Pan ddeallodd Bacchides hyn cynullodd ei holl fyddin ynghyd ac anfonodd wŷs at wŷr Jwdea.

64. Yna daeth a gwersyllu gyferbyn â Bethbasi; ymladdodd yn ei herbyn am ddyddiau lawer, gan godi peiriannau rhyfel.

65. Ond gadawodd Jonathan ei frawd Simon yn y dref, a mynd allan i'r wlad, heb ond ychydig o wŷr i'w ganlyn.

66. Trawodd Odomera a'i frodyr a meibion Phasiron yn eu pabell, a dechreusant ymosod a mynd i'r gad gyda'u lluoedd.

67. Daeth Simon a'i wŷr hwythau allan o'r ddinas a rhoi'r peiriannau rhyfel ar dân. Ymladdasant yn erbyn Bacchides a'i orchfygu.

68. Buont yn achos gofid mawr iddo, oherwydd fod ei gynllun a'i gyrch bellach yn ofer.

69. Yn ei ddicter mawr tuag at y gwŷr digyfraith hynny a gawsai berswâd arno i ddod i'r wlad, lladdodd lawer ohonynt. Yna penderfynodd Bacchides ddychwelyd i'w wlad ei hun.

70. Pan ddeallodd Jonathan hyn anfonodd lysgenhadon ato i drefnu telerau heddwch ag ef, ac iddo roi'r carcharorion yn ôl iddynt. Cytunodd yntau, a gwnaeth yn unol â geiriau Jonathan.

71. Aeth ar ei lw hefyd na fyddai'n ceisio niwed iddo holl ddyddiau ei fywyd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 9