Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 9:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yr oedd Jwdas eisoes yn gwersyllu yn Elasa, a thair mil o wŷr dethol gydag ef.

6. Pan welsant fod rhifedi lluoedd y gelyn yn lluosog, dychrynasant yn ddirfawr; a gwrthgiliodd llawer o'r gwersyll, heb adael dim ond wyth cant ohonynt.

7. Pan welodd Jwdas fod ei fyddin wedi gwrthgilio, dan bwysau'r brwydro yn ei erbyn, torrodd ei galon, oherwydd nid oedd ganddo amser i'w hailgynnull.

8. Yn ei anobaith dywedodd wrth y rhai oedd ar ôl, “Gadewch inni godi a mynd i fyny yn erbyn ein gelynion; siawns na fedrwn ymladd â hwy.”

9. Ond yr oeddent am ei atal, gan ddweud, “Na fedrwn byth; yn hytrach gadewch inni achub ein bywydau ein hunain yn awr; yna dod yn ôl, a'n brodyr gyda ni, i ymladd â hwy. Ychydig ydym ni.”

10. Ond dywedodd Jwdas, “Na ato Duw inni wneud y fath beth â ffoi oddi wrthynt! Os yw ein hamser wedi dod, gadewch inni farw'n wrol dros ein brodyr, heb adael ar ein hôl unrhyw achos i amau ein hanrhydedd.”

11. Aeth llu Bacchides allan o'r gwersyll a chymryd eu safle i fynd i'r afael â'r Iddewon. Yr oedd y gwŷr meirch wedi eu rhannu'n ddwy adran, a'r ffon-daflwyr a'r saethwyr yn mynd o flaen y llu. Yr oedd gwŷr y rheng flaenaf oll yn rhai nerthol, ac yr oedd Bacchides ar yr asgell dde.

12. Nesaodd y fyddin yn ddwy adran gan seinio'r utgyrn. Canodd gwŷr Jwdas hwythau hefyd eu hutgyrn.

13. Ysgydwyd y ddaear gan sŵn y byddinoedd, a bu brwydro clòs o fore hyd hwyr.

14. Gwelodd Jwdas fod Bacchides a grym ei fyddin ar y dde, ac ymgasglodd y dewr o galon i gyd ato.

15. Drylliwyd adran dde y gelyn ganddynt, ac erlidiodd Jwdas hwy hyd at Fynydd Asotus.

16. Pan welodd gwŷr yr asgell chwith fod yr asgell dde wedi ei dryllio, troesant i ymlid Jwdas a'i wŷr o'r tu ôl iddynt.

17. Poethodd y frwydr, a syrthiodd llawer wedi eu clwyfo o'r naill ochr a'r llall.

18. Syrthiodd Jwdas yntau, ond ffoes y lleill.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 9