Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 9:36-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Ond dyma deulu Jambri, brodorion o Medaba, yn dod allan a chipio Ioan a'r cyfan oedd ganddo, a'i ddwyn i ffwrdd gyda hwy.

37. Wedi'r pethau hyn mynegwyd i Jonathan a'i frawd Simon, “Y mae teulu Jambri yn dathlu priodas fawr, ac yn hebrwng y briodferch, merch un o brif benaethiaid Canaan, allan o Nadabath gyda gosgordd fawr.”

38. Yna cofiasant am lofruddiaeth Ioan eu brawd, ac aethant i fyny ac ymguddio yng nghysgod y mynydd.

39. Codasant eu llygaid ac edrych, a dyna dyrfa drystiog a llawer o gelfi; a'r priodfab a'i gyfeillion a'i frodyr yn dod allan i'w cyfarfod, gyda thympanau ac offerynnau cerdd ac arfau lawer.

40. Rhuthrasant hwythau allan o'u cuddfan arnynt i'w lladd. Syrthiodd llawer wedi eu clwyfo, a ffoes y gweddill i'r mynydd; a dygwyd eu holl eiddo yn ysbail.

41. Trowyd y briodas yn alar, a sŵn yr offerynnau cerdd yn alarnad.

42. Wedi iddynt lwyr ddial gwaed eu brawd, dychwelsant at gors yr Iorddonen.

43. Clywodd Bacchides am hyn, a daeth â llu mawr ar y Saboth hyd at lannau'r Iorddonen.

44. Dywedodd Jonathan wrth ei wŷr, “Gadewch inni ymosod yn awr ac ymladd am ein bywydau, oherwydd nid yw arnom heddiw fel y bu o'r blaen.

45. Oherwydd edrychwch, mae hi'n frwydr arnom o'r tu blaen ac o'r tu ôl; y mae dyfroedd yr Iorddonen o boptu, a chors a drysni; nid oes ffordd allan.

46. Gan hynny llefwch yn awr ar y Nefoedd am gael eich achub o law ein gelynion.”

47. Dechreuodd y frwydr; estynnodd Jonathan ei law i daro Bacchides, ond camodd ef yn ôl oddi wrtho.

48. Yna neidiodd Jonathan a'i wŷr i'r Iorddonen a nofio i'r lan arall; ond ni chroesodd y gelyn yr Iorddonen ar eu hôl.

49. Syrthiodd tua mil o wŷr Bacchides y diwrnod hwnnw.

50. Dychwelodd Bacchides i Jerwsalem, ac adeiladodd drefi caerog, ac iddynt furiau uchel a phyrth a barrau, yn Jwdea: y gaer sydd yn Jericho, ynghyd ag Emaus, Beth-horon, Bethel, Timnath Pharathon a Teffon.

51. Gosododd warchodlu ynddynt i aflonyddu ar Israel.

52. Cadarnhaodd hefyd dref Bethswra a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, a gosod ynddynt luoedd a chyflenwad o fwyd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 9