Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 9:22-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Am weddill gweithredoedd Jwdas—y rhyfeloedd, a'r gorchestion a wnaeth, a'i fawredd—ni chroniclwyd mohonynt, oherwydd tra lluosog oeddent.

23. Wedi marwolaeth Jwdas daeth y rhai digyfraith yn holl derfynau Israel allan i'r amlwg, ac ailymddangosodd yr holl weithredwyr anghyfiawnder.

24. Yn y dyddiau hynny bu newyn mawr iawn, a gwrthgiliodd y wlad gyda hwy.

25. Dewisodd Bacchides y rhai annuwiol a'u gosod i lywodraethu'r wlad.

26. Buont yn ceisio ac yn chwilio am gyfeillion Jwdas, a'u dwyn at Bacchides. Dialodd yntau arnynt a'u sarhau.

27. Daeth gorthrymder mawr ar Israel, y fath na fu er y dydd pan beidiodd proffwyd ag ymddangos yn eu plith.

28. Yna ymgasglodd holl gyfeillion Jwdas a dweud wrth Jonathan,

29. “Er pan fu farw dy frawd Jwdas ni fu gŵr tebyg iddo i fynd i mewn ac allan yn erbyn ein gelynion ac yn erbyn Bacchides, ac i ddelio â'r gelynion o blith ein cenedl ni.

30. Yn awr, gan hynny, yr ydym ni heddiw wedi dy ddewis di i fod yn llywodraethwr ac yn arweinydd i ni yn ei le ef, i ymladd ein rhyfel.”

31. A derbyniodd Jonathan yr adeg honno yr arweinyddiaeth, a chymryd lle Jwdas ei frawd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 9