Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 9:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ysgydwyd y ddaear gan sŵn y byddinoedd, a bu brwydro clòs o fore hyd hwyr.

14. Gwelodd Jwdas fod Bacchides a grym ei fyddin ar y dde, ac ymgasglodd y dewr o galon i gyd ato.

15. Drylliwyd adran dde y gelyn ganddynt, ac erlidiodd Jwdas hwy hyd at Fynydd Asotus.

16. Pan welodd gwŷr yr asgell chwith fod yr asgell dde wedi ei dryllio, troesant i ymlid Jwdas a'i wŷr o'r tu ôl iddynt.

17. Poethodd y frwydr, a syrthiodd llawer wedi eu clwyfo o'r naill ochr a'r llall.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 9