Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 8:7-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Daliasant ef yn fyw, a gorchymyn iddo ef, ac i'r sawl a deyrnasai ar ei ôl, dalu treth drom, a rhoi gwystlon,

8. ac ildio gwlad India a Media a Lydia o blith eu tiriogaethau gorau. Cymerasant y rhain oddi wrtho a'u rhoi i'r Brenin Ewmenes.

9. Cynlluniodd y Groegiaid i ddod a'u difetha,

10. ond daeth hyn yn hysbys iddynt, ac anfonasant un cadfridog yn eu herbyn. Ymosodasant arnynt, a syrthiodd llawer o'r Groegiaid wedi eu clwyfo, a chaethgludodd y Rhufeiniaid eu gwragedd a'u plant. Ysbeiliasant hwy a meddiannu'r tir, dymchwel eu ceyrydd, a chaethiwo'u pobl hyd y dydd hwn.

11. Am y gweddill o'r teyrnasoedd a'r ynysoedd, cynifer ag a gododd yn eu herbyn erioed, difrodasant hwy a chaethiwo'u pobl.

12. Ond cadwasant gyfeillgarwch â'u cyfeillion ac â'r sawl oedd yn dibynnu arnynt. Felly gorchfygasant frenhinoedd agos a phell, ac yr oedd pawb a glywai am eu bri yn eu hofni.

13. Pwy bynnag y maent yn ewyllysio eu helpu i fod yn frenhinoedd, fe'u gwnânt yn frenhinoedd; a phwy bynnag y maent yn ewyllysio eu diorseddu, fe wnânt hynny. Y maent wedi eu dyrchafu'n uchel iawn.

14. Er hyn i gyd ni fyddai'r un ohonynt yn gwisgo coron nac yn ymddilladu â phorffor, i gael ei fawrhau trwy hynny;

15. ond adeiladasant senedd-dy iddynt eu hunain, a byddai tri chant ac ugain o seneddwyr beunydd yn ymgynghori'n gyson ynghylch y bobl, gyda golwg ar eu llywodraethu'n dda.

16. Y maent yn ymddiried bob blwyddyn mewn un dyn i reoli drostynt a bod yn feistr ar eu holl dir; y maent oll yn gwrando ar yr un dyn hwn, heb na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.

17. Felly dewisodd Jwdas Ewpolemus fab Ioan, fab Accos, a Jason fab Eleasar, a'u hanfon i Rufain er mwyn sefydlu cyfeillgarwch a chynghrair,

18. a'u cael i godi'r iau oddi arnynt; oherwydd gwelsant fod teyrnas y Groegiaid yn llwyr gaethiwo Israel.

19. Teithiasant i Rufain, taith bell iawn, a mynd i mewn i'r senedd-dy a llefaru fel hyn:

20. “Jwdas, a elwir hefyd Macabeus, a'i frodyr a phobl yr Iddewon a'n hanfonodd ni atoch i sefydlu cynghrair a heddwch gyda chwi, er mwyn cael ein cofrestru'n gynghreiriaid a chyfeillion ichwi.”

21. Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,

22. a dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasant yn ateb, ar lechi pres, a'i anfon i Jerwsalem i fod gyda'r Iddewon yno yn goffâd o heddwch a chynghrair:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 8